Croeso i'n hysgol ni.
Mae’r awyrgylch, ethos ac ansawdd dysgu yn bwysig i ni. Ceisiwn bopeth sydd orau mewn addysg gynradd. Amcanwn i'r plant fod yn hapus, caredig, yn driw i'w gilydd a chael llu o brofiadau cyfoethog fel eu bod yn prifio yn feddyliol a chymdeithasol.
Teimlwn y dylai rhieni a'r gymuned fod ynn rhan o'r ysgol ac y cydweithiwn i sicrhau yr addysg orau i'r plant fel eu bod yn llwyddo i gyflawni eu potensial unigryw eu hunain yn y maes cwricwlaidd ac allgyrsiol. Mae gennym gonsyrn am holl agweddau o ddatblygiad eich plentyn a gobeithiwn y gwnewch rannu a chydweithio gyda ni i wneud y cyfnod yn Ysgol Eifion Wyn yn un hapus a chofiadwy.Os trig plentyn lle bo beirniadaeth, dysg gondemnio
Os trig plentyn lle bo gelyniaeth, dysg ymladd
Os trig plentyn lle bo gwatwar, dysg swildod
Os trig plentyn lle bo cywilydd, dysg euogrwydd
Os trig plentyn lle bo goddefgarwch, dysg amynedd
Os trig plentyn lle bo cadernid, dysg hyder
Os trig plentyn lle bo clod, dysg werthfawrogi
Os trig plentyn lle bo tegwch, dysg gyfiawnder
Os trig plentyn lle bo diogelwch, dysg ffydd
Os trig plentyn lle bo cymeradwyaeth, dysg hunan hoffter
Os trig plentyn lle bo derbyniad a chyfeillgarwch
Dysg ganfod cariad y byd

